Ynni Ogwen
Bu Pweru’r Dyffryn yn ymweld ag Ynni Ogwen yn ystod Ionawr 2025. Yn ystod yr ymweliad cafwyd cyflwyniad i’r Cynllun Hydro sydd â’r gallu i gynhyrchu 100 kWh. Mae’r cynllun hydro yn ariannu prosiectau cymunedol a chynlluniau ynni adnewyddol fel Heuldro. Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Ynni Ogwen.
Yn y llun mae Walis George (Cyd-Reolwr Datblygu) a Gareth Cemlyn Jones (Cyfarwyddwr) Ynni Ogwen ger y cynllun hydro ar lan Afon Ogwen.

Ynni Ogwen
Pweru’r Dyffryn visited Ynni Ogwen during January 2025. They were introduced to the Hydro Plan that has a capacity to produce 100 kWh of energy. The hydro plan helps fund community projects and renewable energy schemes such as Heuldro. Further information can be found on the Ynni Ogwen website.
Pictured are Walis George (Development Manager) and Gareth Cemlyn Jones (Director) Ynni Ogwen near the hydro scheme on the banks of Afon Ogwen.
Grant Cwmpas | Perthyn
Mae prosiect Pweru’r Dyffryn wedi derbyn grant Cwmpas | Perthyn er mwyn cyflogi Swyddog Prosiect rhan amser rhwng Ionawr ac Ebrill 2025. Gwaith y swyddog hwn yw ail-godi proffil prosiect Pweru’r Dyffryn a datblygu trafodaeth ag ystod o asiantaethau, busnesau a mudiadau sydd yn rhedeg prosiectau lleol yn y maes mewn rhannau eraill o Gymru. Bydd hefyd yn trafod gydag asiantaethau a mudiadau cenedlaethol, ac yn cydweithio â Bwrdd Cyfarwyddwyr Gweithgor Dyffryn Aeron er mwyn datblygu amlinelliad o brosiectau i’w trafod a’u gweithredu.
Cwmpas | Perthyn Grant
The Pweru’r Dyffryn project has been awarded a Cwmpas | Perthyn grant to employ a part-time Project Officer between January and April 2025. This officer will raise the profile of the Pweru’r Dyffryn project and develop a discussion with a range of agencies, businesses and organizations that run local projects in the field in other parts from Wales. He will also discuss with national agencies and organisations, and collaborate with the Gweithgor Dyffryn Aeron Board of Directors in order to develop an outline of projects to be discussed and implemented.